Mae strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ wedi pennu targedau ailgylchu…
Read moreSefydlwyd Kelda Organic Energy (KOE) gan Kelda Water Services ac mae’n un o bedwar cwmni sy’n cynnig…
Read moreMae KOE yn cynnig cynllunio, adeiladu, cyllido a gweithredu uned treulio anaerobig datblygedig fel rhan…
Read moreTrosi gwastraff bwyd i greu gwrtaith yn llawn maetholion gwerthfawr - gan helpu’r Cyngor i gyrraedd targedau…
Read moreYn dilyn yr arddangosfeydd cyhoeddus, bydd KOE yn cyflwyno cais cynllunio llawn i Gyngor Caerdydd…
Read moreAm wybodaeth bellach am KOE, treulio anaerobig neu’r datblygiadau diweddaraf, ewch i’r wefan…
Read moreMae strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ wedi pennu targedau ailgylchu ar gyfer pawb, gyda’r nod o ailgylchu 70% erbyn 2025. Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i gyrraedd y targedau hynny er mwyn creu prifddinas lân, deniadol a chynaladwy ar gyfer pawb. O ganlyniad, mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu Project Trin Gwastraff Organig Caerdydd er mwyn llunio contract hir dymor i drin ac ailgylchu gwastraff bwyd a gwyrdd mewn modd mwy cynaladwy.
Sefydlwyd Kelda Organic Energy (KOE) gan Kelda Water Services ac mae’n un o bedwar cwmni sy’n cynnig i ddarparu ateb buddiol a chynaladwy i ailgylchu gwastraff organig Cyngor Caerdydd.
Wrth gydweithio’n agos â Dŵr Cymru Welsh Water, nod KOE yw cyfuno arbenigedd gweithredu Grŵp Kelda gyda gwybodaeth, rhwydwaith a chymorth lleol Dŵr Cymru.
Mae KOE yn cynnig cynllunio, adeiladu, cyllido a gweithredu uned treulio anaerobig datblygedig fel rhan o fenter ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ Llywodraeth y Cynulliad. Diben yr uned fydd trin gwastraff bwyd Caerdydd.
Triniaeth naturiol yw treulio anaerobig sy’n defnyddio bacteria i dorri lawr gwastraff bwyd yn absenoldeb ocsigen, gan gynhyrchu bionwy a ddefnyddir i gynhyrchu trydan gwyrdd. Mae’r broses hefyd yn cynhyrchu deunydd hylifol i’w ddefnyddio fel gwrtaith ar dir. Y rheswm yw ei fod yn llawn o faetholion gwerthfawr, yn arbennig nitrogen, gan adael dim gwastraff o gwbl. Bydd y trydan yn cyflenwi gwaith trin dŵr gwastraff Dŵr Cymru drws nesaf gan wneud y safle’n fwy cynaladwy.
Cynlluniwyd yr uned ailgylchu i ddechrau gweithredu yn 2016, gyda’r cynhwysedd i drin oddeutu 35,000 tunnell o fwyd gwastraff y flwyddyn a gesglir gan Gyngor Caerdydd.
Y cynnig yw gosod yr uned ar safle gwaith trin dŵr gwastraff Dŵr Cymru drws nesaf i stad ddiwydiannol Tremorfa.
Yn dilyn yr arddangosfeydd cyhoeddus, bydd KOE yn cyflwyno cais cynllunio llawn i Gyngor Caerdydd gyda’r nod o gael caniatâd cynllunio erbyn Mehefin 2013. Os yn llwyddiannus gyda’r cynnig i’r Cyngor am y contract hir dymor, byddwn yn dechrau adeiladu’r uned tua chanol 2014 er mwyn dechrau gweithredu yn ystod misoedd cynnar 2016.
Am wybodaeth bellach am KOE, treulio anaerobig neu’r datblygiadau diweddaraf, ewch i’r wefan www.keldaorganicenergy.co.uk.
Neu anfonwch ebost at info@keldaorganicenergy.co.uk er mwyn cael ymateb cyn gynted â phosibl.